Executive Summary (Welsh)

Cyflwyniad

Dyma adroddiad terfynol cam ymchwil yr Adolygiad o Addysg a Hyfforddiant Cyfreithiol (LETR), a gynhaliwyd ar ran Bwrdd Safonau’r Bar (BSB), Safonau Proffesiynol ILEX (IPS) a’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA). Hwn yw’r adolygiad cyntaf o wasanaethau cyfreithiol ar gyfer y sector cyfan ers Adroddiad Ormrod yn 1971 (Adroddiad y Pwyllgor ar Addysg Gyfreithiol, Gorchymyn 4595).

Comisiynwyd yr adroddiad hwn fel cam cyntaf proses adolygu eang ei chwmpas y bwriedir iddi sicrhau bod gan Gymru a Lloegr system o addysg a hyfforddiant gwasanaethau cyfreithiol (LSET) sy’n addas at y diben, ac sy’n hyrwyddo amcanion rheoliadol Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 er budd cymdeithas, defnyddwyr a chyfiawnder.

Cynhelir yr Adolygiad yng nghyd-destun sector gwasanaethau cyfreithiol sy’n wynebu cyfnod o newid na welwyd mo’i debyg o’r blaen, a allai, dros y ddau ddegawd nesaf, weddnewid y farchnad gwasanaethau cyfreithiol. Bydd amodau economaidd byd-eang a chystadleuaeth gynyddol yn parhau i ddarparu cyd-destun heriol ac ansicr ar gyfer y marchnadoedd rhyngwladol a domestig. Mae prosesau rhyddfrydoli marchnadoedd a diwygiadau ariannu yn y sector gwasanaethau cyfreithiol domestig yn gweddnewid gwasanaethau cyfreithiol i ddefnyddwyr, ac yn dylanwadu ar ymddygiad prynwyr, wedi’u llywio gan newidiadau technolegol a demograffig. Mae’r dylanwadau hyn eisoes yn ysgogi datblygiadau arloesol o ran technoleg, rolau a phrosesau o fewn gwasanaethau cyfreithiol, datblygiadau arloesol y mae’n rhaid i LSET gyd-fynd â hwy.

Felly, cylch gwaith y cam ymchwil hwn oedd datblygu cyfres o argymhellion a fydd yn sicrhau tri pheth. Yn gyntaf, bod gan ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol unigol y dyfodol y wybodaeth, y sgiliau a’r priodoleddau proffesiynol i ddiwallu anghenion busnesau, defnyddwyr a budd y cyhoedd nawr ac yn y dyfodol. Yn ail, bod rheoliadau yn helpu darparwyr  addysg  a hyfforddiant  i ddarparu LSET sy’n sicrhau cymhwysedd cychwynnol a pharhaus ymarferwyr, ac yn drydydd, bod gan gyflogwyr yr hyblygrwydd i ddatblygu eu gweithlu er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol a phroffesiynol i’w cleientiaid.

Y prif ganfyddiadau ac argymhellion

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod y system LSET bresennol, ar y cyfan, yn darparu addysg a hyfforddiant o safon dda sy’n ei gwneud yn bosibl i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau craidd sydd eu hangen i ymarfer ar draws yr ystod o broffesiynau a reoleiddir. Ar yr un pryd mae’r gwaith ymchwil wedi nodi nifer o ffyrdd y mae angen gwella ansawdd, hygyrchedd a hyblygrwydd LSET er mwyn sicrhau bod y system yn parhau’n addas at y diben yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o ddigwyddiadau cynyddrannol ond pwysig, o’u hystyried gyda’i gilydd. Bydd argymhellion allweddol yn gwneud y canlynol:

Ansawdd

  • atgyfnerthu gofynion ar gyfer addysg a hyfforddiant mewn moeseg, gwerthoedd a phroffesiynoldeb cyfreithiol, datblygu sgiliau  rheoli, sgiliau cyfathrebu, a chydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • gwella cysondeb addysg a hyfforddiant drwy system fwy cadarn o ddeilliannau a safonau dysgu, a safoni asesiadau i raddau mwy;
  • rhoi mwy o bwyslais ar sicrhau cymhwysedd parhaus darparwyr gwasanaethau cyfreithiol drwy system o ddatblygiad proffesiynol parhaus a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr fynd ati i gynllunio a dangos gwerth dysgu parhaus mewn ffordd fwy gweithredol;
  • ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr gasglu a darparu data a gwybodaeth allweddol a fydd yn llenwi bylchau mewn gwybodaeth, yn ategu prosesau gwneud penderfyniadau gan ddarpar ddechreuwyr, defnyddwyr a chyflogwyr a sicrhau bod LSET yn cael ei rheoleiddio’n fwy effeithiol gan y farchnad.

Mynediad a symudedd

  • sefydlu safonau proffesiynol ar gyfer interniaethau a phrofiad gwaith;
  • gwella ansawdd a chynyddu cyfleoedd o ran dilyniant gyrfa a symudedd o fewn gwaith paragyfreithiol, drwy annog cyrff rheoleiddio a chyrff cynrychiadol i gydweithio i ddatblygu un system ardystio/trwyddedu wirfoddol i staff paragyfreithiol, yn seiliedig ar gyfres gyffredin o ddeilliannau a safonau paragyfreithiol;
  • darparu gwybodaeth haws ei deall o ansawdd uwch am yr ystod o yrfaoedd cyfreithiol a realiti marchnad swyddi gwasanaethau cyfreithiol;
  • cefnogi a monitro datblygiad prentisiaethau uwch ar lefelau 6-7 fel llwybr i’r sector a reoleiddir ar gyfer unigolion nad ydynt yn raddedigion.

Hyblygrwydd

  • disgwyl i reoleiddwyr gydweithio i bennu deilliannau ar gyfer LSET er mwyn sicrhau bod safonau sylfaenol yn cyfateb i’w gilydd;
  • egluro systemau ar gyfer achredu dysgu blaenorol a throsglwyddo rhwng llwybrau proffesiynol, a sicrhau nad ydynt yn creu rhwystrau diangen i ddilyniant;
  • dileu gofynion mewn rheoliadau hyfforddi sy’n cyfyngu’n ddiangen ar ddatblygu llwybrau arloesol a hyblyg i gymhwyso, gan gynnwys integreiddio dysgu yn yr ystafell ddosbarth a’r gweithle yn fwy effeithiol.

Nid yw’r adroddiad yn argymell newid ar hyn o bryd i system awdurdodi helaethach sy’n seiliedig ar weithgareddau, oherwydd y gost a’r cymhlethdod a allai fod yn gysylltiedig â hi, yn enwedig o fewn y system bresennol o reoleiddwyr lluosog.

Yr ymchwil

Dechreuodd y tîm ymchwil annibynnol ar ei waith ym mis Mehefin 2011 a chyflwynir yr Adroddiad Terfynol hwn i Bwyllgor Gwaith yr Adolygiad ym mis Mehefin 2013. Mater i bob un o’r rheoleiddwyr rheng flaen yw penderfynu, yng ngoleuni eu cyfrifoldebau rheoleiddio, pa gamau y byddant yn eu cymryd mewn ymateb i argymhellion yr adroddiad.

Gwnaed yr ymchwil mewn tri cham, a oedd yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth, dadansoddi cyd-destun y sector gwasanaethau cyfreithiol a dadansoddi cyd-destun LSET a’r systemau a’r strwythurau a ddefnyddir i’w darparu. Roedd dulliau ymchwil yn cynnwys: dadansoddi dogfennau polisi, rheoliadau a llenyddiaeth eilaidd; ymchwil ansoddol a oedd yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda 307 o academyddion (gan gynnwys academyddion cam galwedigaethol), myfyrwyr, ymarferwyr ac eraill; ymchwil feintiol ar ffurf arolwg ar-lein a ddenodd 1,128 o ymatebwyr o’r proffesiynau, yr academi a phobl eraill â diddordeb; arolygon ar-lein o ysgrifenwyr ewyllysiau a chynghorwyr gyrfaoedd a dadansoddiad o’r ffordd y mae cyfreithwyr yn defnyddio eu hamser ar dasgau a sgiliau penodol. Hefyd, cafodd y tîm ymchwil ganiatâd i weld data a gasglwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol (LSB) ar brofiadau defnyddwyr o wasanaethau cyfreithiol. Nod cyffredinol y gwaith ymchwil empiraidd oedd nodi manteision ac anfanteision y system bresennol a’r hyn a oedd yn angenrheidiol ac yn bosibl ar gyfer y dyfodol. Darparwyd mewnbwn pellach gan waith dau ymgynghorydd arbenigol: Yr Athro Richard Susskind ar ddatblygiadau mewn gwasanaethau cyfreithiol yn y dyfodol, a’r Athro Rob Wilson ar y galw am swyddi yn y sector gwasanaethau cyfreithiol yn y dyfodol. Ceir papurau, cyflwyniadau ac ymatebion rhanddeiliaid interim a gyhoeddwyd yn ystod yr ymchwil ar wefan yr ymchwil yn http://letr.org.uk/.

Grwpiau cynghori

Rheolwyd y broses gyffredinol o gynnal cam ymchwil yr Adolygiad gan Bwyllgor Gwaith yr Adolygiad, a oedd yn cynnwys Prif Swyddogion Gweithredol Bwrdd Safonau’r Bar, Safonau Proffesiynol ILEX a’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Bu Panel Llywio Ymgynghori (CSP) a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr rhanddeiliaid allweddol yn gweithredu mewn rôl ymgynghori a chynghori gyda’r Fonesig Janet Gaymer a Syr Mark Potter fel cyd-Gadeiryddion. Cyfarfu’r Panel chwe gwaith i wneud sylwadau ar gynnydd a’i adolygu a rhoi arweiniad i’r tîm ymchwil, a bydd yn cyfarfod eto er mwyn ystyried yr adroddiad terfynol hwn. Ffurfiwyd Grŵp Cynghori Arbenigol ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Symudedd Cymdeithasol dan gadeiryddiaeth yr Athro Gus John i roi cyngor i’r tîm ymchwil a’r Panel. Cynhaliwyd symposiwm a oedd yn dwyn y teitl ‘Assuring competence in a changing legal services market’ ym Manceinion ar 10-11 Gorffennaf 2012 a bu amrywiaeth eang o gyfranwyr enwog at feysydd addysg, ymarfer a rheoleiddio cyfreithiol yn bresennol ynddo.

Yr adroddiad

Mae’r adroddiad hwn yn nodi methodoleg a chanfyddiadau’r cam ymchwil a’r dystiolaeth sy’n sail i’r canlyniadau hynny ac yn cyflwyno cyfres o argymhellion ar gyfer y rheoleiddwyr cymeradwy a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol. Mae’r penodau sylweddol yn dilyn tair thema eang o gyd-destun (yr amgylchedd cymdeithasol, yr amgylchedd economaidd a’r amgylchedd polisi lle y darperir LSET), cynnwys (y wybodaeth, y sgiliau a’r priodoleddau sydd i’w datblygu gan LSET) a’r systemau (y strwythurau a’r prosesau sy’n llywio, yn gweinyddu ac yn hwyluso LSET). Mae’r adroddiad wedi’i drefnu fel a ganlyn:

  • Mae Pennod 1 yn cyflwyno nodau, cwmpas a dulliau cam ymchwil LETR.
  • Mae Pennod 2 yn ystyried cefndir, a chyd-destun cyfredol, addysg a hyfforddiant cyfreithiol, gan gyferbynnu’r model hyfforddi ar gyfer bargyfreithwyr a chyfreithwyr a modelau hyfforddi’r proffesiynau eraill ac yn cynnig rhywfaint o werthusiad o gryfderau a gwendidau dulliau gweithredu cyfredol.
  • Mae Pennod 3 yn canolbwyntio ar dueddiadau yn y farchnad gwasanaethau cyfreithiol a’r gyfundrefn reoleiddio sy’n newid. Ystyrir goblygiadau anghenion amcanestynedig o ran y gweithlu cyfreithiol i LSET, ynghyd â datblygiad rolau newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol a staff paragyfreithiol a reoleiddir a datblygiadau allweddol yn y sector nas rheoleiddir.
  • Gan ddefnyddio gwaith ymchwil cymharol ar broffesiynau eraill ac mewn awdurdodaethau eraill mae Pennod 4 yn canolbwyntio ar nodi a chyfleu cymhwysedd mewn gwasanaethau cyfreithiol. Mae’n edrych ar yr ystod o gymwyseddau neu ddeilliannau dysgu priodol a’r angen i gau bylchau canfyddedig mewn gwybodaeth a sgiliau. Mae’r bennod yn gorffen drwy ystyried y broses o bennu safonau a’r angen am arferion asesu perthnasol a chadarn.
  • Mae Pennod 5 yn datblygu thema sicrhau cymhwysedd ar gyfer y dyfodol ac yn ystyried rôl teitlau a reoleiddir a sut y gellir ategu gwaith rheoleiddio sy’n seiliedig ar deitlau neu fabwysiadu dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar endidau neu weithgareddau yn ei le. Mae’n ystyried ffyrdd o wella hyblygrwydd llwybrau i gymhwyso a’r posibilrwydd o hyfforddiant mwy cyffredin neu integredig rhwng y gwahanol broffesiynau cyfreithiol. Mae hefyd yn ystyried rolau cymharol DPP ac ailachredu o ran sicrhau cymhwysedd parhaus. Mae’r bennod yn gorffen drwy drafod cyfraniad prosesau sicrhau ansawdd at gynnal perfformiad cymwys.
  • Mae Pennod 6 yn canolbwyntio ar bedwar mater sy’n hanfodol i ddatblygiad LSET yn y dyfodol: hyrwyddo mynediad teg; sicrhau cymhwysedd parhaus drwy ymarfer gwell a oruchwylir; ymagwedd ddiwygiedig at DPP, a’r posibilrwydd o gynyddu gweithgarwch rheoleiddio neu gydnabod ansawdd ar gyfer staff paragyfreithiol. Mae’r bennod yn gorffen drwy ystyried amrywiaeth o newidiadau sefydliadol y bwriedir iddynt gefnogi llifau gwybodaeth a newid diwylliannol o ran y modd y caiff LSET ei rheoleiddio yn y dyfodol.
  • Mae Pennod 7 yn crynhoi’r canfyddiadau a’r casgliadau allweddol sy’n deillio o’r gwaith ymchwil yn erbyn asesiad o’r effaith gydraddoldeb. Mae hefyd yn nodi’r argymhellion ar gyfer y cyrff rheoleiddio a meysydd lle mae angen gwneud rhagor o ymchwil.

Cyd-destun yr argymhellion

Mae’r argymhellion yn ymdrin â’r agweddau hynny ar LSET y mae’r gwaith ymchwil wedi nodi eu bod yn ddiffygiol neu fod angen eu hailystyried ar hyn o bryd er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y system yn y dyfodol. Nodir isod y rhai pwysicaf:

  • ni wneir digon i sicrhau cysondeb o ran deilliannau a safonau asesu, yn enwedig ar gyfer y proffesiynau hynny lle mae elfen o addysg neu hyfforddiant yn cael ei darparu gan nifer o ddarparwyr lled annibynnol;
  • cyfyngiadau ar y ffurfiau derbyniol o hyfforddiant proffesiynol (yn enwedig ar y cam galwedigaethol a cham DPP) a all effeithio ar ddefnyddioldeb hyfforddiant, atal arloesi neu gyfyngu ar gystadleuaeth yn ddiangen;
  • bylchau mewn gwybodaeth neu sgiliau o ran gwerthoedd cyfreithiol a moeseg broffesiynol, cyfathrebu, sgiliau rheoli ac ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • cyfyngiadau ar symudedd llorweddol a fertigol, a all ddod yn fwyfwy pwysig wrth i’r farchnad ddod yn fwy cyfnewidiol. Er yr ymddengys fod nifer yr unigolion sydd am drosglwyddo rhwng proffesiynau yn gymharol fach, gall cyfyngu ar symuded fertigol rhwng y proffesiynau llai o faint a mwy o faint gael cryn effaith o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac o ran cyfyngu’n ddiangen ar fynediad gweithwyr paragyfreithiol i alwedigaethau a reoleiddir. Gall cyfyngiadau ar symudedd llorweddol fod yn llai pwysig o ran amrywiaeth, ond gall fod yn anodd cyfiawnhau’r fath gyfyngiadau o hyd yn ôl meini prawf gwrthrychol sy’n seiliedig ar risg;
  • effaith cynyddu rhwystrau cost sy’n effeithio ar gyfleoedd i gael hyfforddiant academaidd a phroffesiynol a hyfforddiant yn y gweithle, yn enwedig ar gyfer cyfreithwyr a bargyfreithwyr mewn practis anfasnachol;
  • cyfyngiadau ar y gallu i wneud polisïau cydlynol yn seiliedig ar dystiolaeth o ran LSET sy’n gysylltiedig â diffyg ymchwil a gwybodaeth.

Yn gyffredinol, mae’r adroddiad wedi mynd ati i hyrwyddo diwygiadau cynyddrannol lle y bo’n bosibl, drwy broses lle mae rheoleiddwyr a rhanddeiliaid yn cydweithio i gynllunio LSET. Bydd hyn yn galluogi’r system LSET i ymateb yn strategol i newid yn yr hyn sy’n debygol o barhau’n amgylchedd economaidd a gwleidyddol ansicr dros y degawd nesaf.

Argymhellion

Rhestrir yr argymhellion llawn isod. Maent wedi’u trefnu’n bedwar grŵp: canlyniadau a safonau; cynnwys; strwythurau a’r broses adolygu. Rhagflaenir pob cyfres o argymhellion gan esboniad cryno o’r rhesymau dros eu gwneud. Ceir esboniad llawnach o gwmpas a bwriad pob argymhelliad ym Mhennod 7. Nid oes unrhyw arwyddocâd arbennig i’r drefn y cyflwynir yr argymhellion, ac ni fwriedir unrhyw oblygiadau o ran blaenoriaeth unrhyw eitem.[1]

Canlyniadau a safonau

Mae’r gwaith o sefydlu, monitro a gorfodi safonau cymhwysedd wrth wraidd gweithgarwch rheoleiddio gweithwyr proffesiynol, ac mae addysg a hyfforddiant yn ddulliau a ddefnyddir gan reoleiddwyr i sicrhau cydymffurfio â’r safonau hynny. Felly, dylid bod modd dangos bod cymhwysedd wedi’i ennill, wedi’i gyfleu ac wedi’i sicrhau.

Nid yw’r system LSET bresennol yn sicrhau’n gyson fod y lefelau gofynnol o gymhwysedd yn cael eu cyflawni mewn ffordd ddibynadwy ac amlwg. Nodir isod wendidau allweddol y system: ei dibyniaeth ar gysyniadau cymharol arwynebol, amwys neu gul o gymhwysedd; gormod o ddibyniaeth ar gymhwyster cychwynnol fel sail i gymhwysedd parhaus; diffyg eglurder a chysondeb o ran safonau mewn pwyntiau mynediad; y ffaith nad oes unrhyw systemau cadarn, ar y cyfan, ar gyfer safoni asesiadau a diffyg cydlyniant o ran trosglwyddo ac eithrio rhwng teitlau a reoleiddir.

Byddai datblygu deilliannau a safonau mwy cadarn ac wedi’u cyfundrefnu, a gydgysylltir rhwng y proffesiynau, yn sicrhau bod cymhwysedd yn cael ei gyflawni mewn ffordd fwy dibynadwy a chyson; ei gwneud yn bosibl i achredu profiad a dysgu ffurfiol blaenorol yn briodol yn erbyn y deilliannau hynny a hwyluso mwy o eglurder ynghylch trosglwyddo’n llorweddol rhwng llwybrau proffesiynol.

Argymhelliad 1

Dylid rhagnodi deilliannau dysgu ar gyfer y wybodaeth, y sgiliau a’r priodoleddau a ddisgwylir gan aelod cymwys o bob un o’r proffesiynau a reoleiddir. Dylai’r datganiadau deilliannau hyn gael eu hategu gan safonau a chanllawiau ychwanegol yn ôl yr angen.

Argymhelliad 2

Dylai’r fath ganllawiau ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr addysg a hyfforddiant roi dulliau priodol ar waith ar gyfer pennu safonau asesu er mwyn sicrhau bod myfyrwyr neu hyfforddeion wedi cyflawni’r deilliannau a ragnodwyd.

Argymhelliad 3

Dylai deilliannau dysgu ar gyfer llwybrau cymhwyso rhagnodedig i’r proffesiynau a reoleiddir fod yn seiliedig ar gymwysterau ar ddadansoddiad galwedigaethol o’r holl wybodaeth, sgiliau a phriodoleddau sydd eu hangen. Dylent ddechrau gyda chyfres o ddeilliannau dysgu ‘diwrnod cyntaf’ y mae’n rhaid eu cyflawni cyn y gall hyfforddeion gael eu hawdurdodi i ymarfer. Gellid rhaeadru’r deilliannau dysgu hyn i lawr, fel y bo’n briodol, i ddeilliannau ar gyfer gwahanol gamau cychwynnol neu lefelau o LSET. Gellir pennu deilliannau dysg hefyd (gweler isod) ar gyfer gweithgareddau ar ôl cymhwyso.

At hynny, os oes gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl un lefel o gymhwysedd ar draws o leiaf yr ystod o weithgareddau a gadwyd yn ôl a sgiliau craidd cyffredin, bydd angen rhywfaint o waith cydgysylltu wrth bennu lefelau trothwy o gymhwysedd. Ni olyga hyn fod yn rhaid i wahanol lwybrau neu gymwysterau fabwysiadu prosesau dysgu cyffredin, ac na ellir gosod cymwysterau uwchlaw’r trothwy, ond mae’n golygu bod yn rhaid i wahanol ddulliau gael o leiaf yr un effaith. Argymhellir, er mwyn sicrhau safon sylfaenol briodol, na ddylai’r trothwy awdurdodi fod yn is na lefel 6. At hynny, yn y tymor hwy, byddai fframwaith cenedlaethol ar gyfer y sector yn symleiddio penderfyniadau ynghylch trosglwyddo rhwng proffesiynau a llwybrau cymhwyso ac awdurdodi’n rhannol. Bydd yn hwyluso datblygiad cymwysterau neu achrediadau arbenigol sy’n seiliedig ar weithgareddau. Gallai hefyd ddarparu un fframwaith i gefnogi dilyniant o weithiwr paragyfreithiol i ymarferydd awdurdodedig.

Argymhelliad 4

Dylid rhoi systemau ar waith er mwyn i reoleiddwyr gydgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid perthnasol gan gynnwys aelodau o’u proffesiwn a reoleiddir, rheoleiddwyr eraill, darparwyr addysgol, hyfforddeion a defnyddwyr, er mwyn pennu deilliannau dysgu a rhagnodi safonau.

Argymhelliad 5

Yn y tymor hwy, dylid ystyried ymhellach ddatblygu fframwaith cyffredin o ddeilliannau a safonau dysgu i’r sector gwasanaethau cyfreithiol yn gyffredinol.

Cynnwys

Nodwyd nifer o fylchau a diffygion yn y wybodaeth, y sgiliau a’r priodoleddau sydd wedi’u datblygu ar hyn o bryd gan LSET. Natur ganolog moeseg broffesiynol a gwerthoedd cyfreithiol i ymarfer ar draws y gweithlu a reoleiddir yw un o’r casgliadau cliriaf sy’n deillio o ddata ymchwil LETR, ac eto mae’r modd yr ymdrinnir ag ymddygiad proffesiynol, moeseg a ‘phroffesiynoldeb’ yn amrywio o ran ansawdd rhwng y proffesiynau a reoleiddir. Ar y cyfan, roedd y data ymchwil yn ategu’r angen i bob unigolyn awdurdodedig gael rhywfaint o addysg mewn gwerthoedd cyfreithiol ac anogir rheoleiddwyr i ystyried datblygu dull cyffredinol o ymdrin â’r pwnc hwn yn hytrach na ffocws cyfyngedig ar reolau neu egwyddorion ymddygiad.

Mae cefnogaeth gref o blaid integreiddio hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth yn gywir ac yn sensitif mewn LSET fel rhan o addysg gychwynnol ac addysg barhaus.

Nodwyd bylchau sgiliau o ran ymwybyddiaeth fasnachol, sgiliau ymchwil gyfreithiol, a chyfathrebu – yn enwedig ysgrifennu a drafftio, ac mewn rhai cyd-destunau, eiriolaeth – mewn perthynas â chamau cychwynnol hyfforddiant.

Cydnabyddir pwysigrwydd datblygu sgiliau busnes a rheoli yn eang ond nid yw hyn wedi’i ymgorffori’n dda ym mhob rhan o’r sector. Nododd y data ymchwil fod angen datblygu hyfforddiant ar reoli perthnasau â chleientiaid a rheoli prosiectau yn ogystal â goruchwylio hyfforddeion ac eraill.

Argymhelliad 6

Dylai cynlluniau LSET gynnwys deilliannau dysgu priodol o ran moeseg broffesiynol, ymchwil gyfreithiol a dangos amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu llafar.

Argymhelliad 7

Dylai’r deilliannau dysgu ar gamau cychwynnol o LSET gynnwys cyfeiriadau (fel y bo’n briodol i rôl yr ymarferydd unigol) at ddealltwriaeth o’r gydberthynas rhwng moesoldeb a’r gyfraith, y gwerthoedd sydd wrth wraidd y system gynllunio a rôl cyfreithwyr mewn perthynas â’r gwerthoedd hynny.

Argymhelliad 8

Dylai hyfforddiant eiriolaeth ym mhob rhan o’r sector roi mwy o sylw i baratoi hyfforddeion ac ymarferwyr i gyflawni eu rôl a’u dyletswyddau fel eiriolwyr wrth ymddangos yn erbyn ymgyfreithwyr sy’n cynrychioli eu hunain.

Argymhelliad 9

Dylid datblygu deilliannau dysgu ar gyfer dysgu parhaus ar ôl cymhwyso yn y meysydd arbenigol canlynol:

  • Ymddygiad a llywodraethu proffesiynol.
  • Sgiliau rheoli (ar yr adegau priodol yn ystod gyrfa’r ymarferydd. Gellid targedu hyn at sectorau risg uchel hefyd, megis ymarferydd ar ei ben ei hun).
  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth (nid o reidrwydd fel rhwymedigaeth gylchol).

Gwneir nifer o argymhellion ynghylch y Radd Ymgymhwyso yn y Gyfraith (QLD) a’r Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL). Mae’r rhain yn parhau i gynnig llwybr pwysig i’r sector gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer amrywiaeth o unigolion awdurdodedig, ac felly maent yn sail bwysig i hyfforddiant proffesiynol. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd o’r farn bod angen sicrhau bod cymhwysedd parhaus yn sicrhau bod LETR yn canolbwyntio’n bennaf ar gamau diweddarach addysg gychwynnol a pharhaus ac yn cydnabod bod y Radd Gymhwysol yn y Gyfraith yn cyflawni nifer o ddibenion ac na ddylid ei gor-reoleiddio.

Gwaith ar y deilliannau a ddisgrifiwyd uchod a fydd yn penderfynu i ba raddau y bydd angen newid Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol, ac nid yw’r adroddiad yn ceisio achub y blaen ar y broses honno. Nid yw’r data ymchwil yn rhoi achos clir o blaid naill ai ymestyn neu leihau’r pynciau Sylfaen presennol; yn benodol, nid oes unrhyw gonsensws i gynnwys moeseg broffesiynol fel pwnc Sylfaen ar wahân. Ar yr un pryd, er mwyn sicrhau tryloywder a chysondeb ar gyfer myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd, mae achos dros ragnodi rhywfaint o gynnwys ychwanegol a darparu canllawiau ar y cydbwysedd rhwng y pynciau Sylfaen.

Nodir pryderon eang ynghylch datblygu maes ysgrifennu cyfreithiol, ac, i raddau ychydig yn llai, sgiliau ymchwil a rhesymu. Felly, argymhellir y dylid asesu sgiliau ymchwil, ysgrifennu a meddwl beirniadol ar wahân fel ymateb angenrheidiol a chymesur.

Argymhelliad 10

Dylid adolygu’r cydbwysedd rhwng Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol yn y Radd Ymgymhwyso yn y Gyfraith a’r Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion, a dylid ailystyried y datganiad o wybodaeth a sgiliau o fewn y Datganiad ar y Cyd gan roi sylw penodol i’r graddau y mae’n cyd-fynd â datganiad Meincnod y Gyfraith ac yn sgil yr argymhellion eraill yn yr adroddiad hwn. Dylid cyflwyno manyleb cynnwys gyffredinol ar gyfer y pynciau Sylfaen. Ni ddylai’r gofynion a ailystyriwyd, fel ar hyn o bryd, fod yn fwy na 180 o gredydau o fewn cwrs Gradd Ymgymhwyso yn y Gyfraith tair blynedd.

Argymhelliad 11

Dylid cynnal asesiad ar wahân o sgiliau ymchwil, ysgrifennu a meddwl beirniadol cyfreithiol ar lefel 5 neu’n uwch yn y Radd Ymgymhwysol yn y Gyfraith a’r Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion. Dylai darparwyr addysgol gadw’r hawl i arfer disgresiwn wrth bennu cyd-destun a pharamedrau’r gorchwyl, ar yr amod ei fod yn ddigon sylweddol i roi cyfle rhesymol ond heriol i fyfyrwyr ddangos eu cymhwysedd.

Nodir nifer o bryderon penodol ynghylch ansawdd hyfforddiant drwy’r adroddiad o ran gweithgareddau a gadwyd yn ôl, yn benodol eiriolaeth ac ysgrifennu ewyllysiau. Mae rhaglenni galwedigaethol wedi’u dal ar hyn o bryd rhwng ceisio atgynhyrchu’r amrywiaeth cynyddol o amgylcheddau ymarfer tebygol a geir yn y dyfodol, gan gynnwys gwaith mewn cyd-destunau amgen megis strwythurau busnes amgen, rolau amgen, a gweithgareddau sy’n datblygu’n gyflym megis dulliau amgen o ddatrys anghydfod, a darparu’r hyfforddiant dwys a fyddai’n eu paratoi’n well ar gyfer marchnad haenedig a mwyfwy arbenigol. O ganlyniad, gwneir yr argymhellion penodol canlynol:

Argymhelliad 12

Dylid addasu strwythur cam 1 y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (ar gyfer darpar gyfreithwyr) er mwyn sicrhau darpariaeth fwy hyblyg a datblygu llwybrau arbenigol. Dylid lleihau cwmpas y sail wybodaeth dechnegol ofynnol, er mwyn cynnwys ffocws priodol ar ymwybyddiaeth fasnachol a pharatoi myfyrwyr yn well ar gyfer cyd-destunau ymarfer amgen. Bydd angen rhoi sylw i ddigonolrwydd hyfforddiant ac addysg eiriolaeth o ran llunio a drafftio ewyllysiau.

Argymhelliad 13

Ar y Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol ar gyfer y Bar (ar gyfer darpar fargyfreithwyr), dylid adolygu’r elfen Datrys Anghydfodau y tu allan i’r Llys er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar y sgiliau sydd eu hangen ar Ddulliau Datrys Anghydfod Amgen, yn enwedig mewn perthynas ag eiriolaeth gyfryngu.

Strwythurau

Cyfnodau o ymarfer dan oruchwyliaeth

Roedd bron pob un o’r ymatebwyr a gyflwynodd sylwadau ar ymarfer dan oruchwyliaeth o’r farn bod yn rhaid cadw rhywfaint o hyfforddiant dan oruchwyliaeth yn y gweithle. Fodd bynnag, mae cysondeb profiadau ac ansawdd goruchwyliaeth yn dal yn broblemau mawr. Lleisiwyd pryderon hefyd fod strwythurau rheoliadol presennol sy’n rheoli ymarfer dan oruchwyliaeth yn rhwystro llwybrau amgen defnyddiol i gymhwyso, a allai leihau’r dagfa sy’n gysylltiedig â hyfforddiant ar gyfer rhai proffesiynau a helpu hefyd i sicrhau y gall cyflogwyr hyfforddi unigolion mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion ac anghenion eu cleientiaid.

Mae diddordeb cynyddol ymhlith rhanddeiliaid mewn strwythurau LSET lle y gall hyfforddeion weithio ac ymgymryd ag astudiaethau ffurfiol ar yr un pryd, nid yn unig i leihau costau, ond hefyd i hwyluso cysondeb rhwng yr hyn a ddysgir yn y ddau gyd-destun a datblygiad priodoleddau megis ymwybyddiaeth fasnachol. Serch hynny, byddai’r fath broses gyfuno, pe bai’n orfodol, yn creu costau ychwanegol i endidau llai o faint. Felly, cynigir ‘economi gymysg’ a arweinir gan y farchnad, lle y dylai’r baich fod ar y rheoleiddiwr, a fydd yn mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar risg er mwyn nodi pam na ddylid caniatáu llwybr arfaethedig os na ellir cyflawni’r deilliannau dysgu perthnasol. Gall hyn arwain at lwybrau lluosog i gyflawni’r un canlyniadau.

Felly, cynigir diwygiadau sy’n ceisio cydbwyso mwy o bwyslais ar sicrhau ansawdd a hyfforddiant a ddarperir gan oruchwylwyr â mwy o hyblygrwydd wrth wneud gwaith rheoleidddio dros gyfnod yr ymarfer dan oruchwyliaeth (yn gyson â dull sy’n seiliedig ar ddeilliannau o ddarparu LSET), yr amgylcheddau lle y caniateir hyfforddiant, ac unrhyw gyfyngiadau diangen ar natur yr unigolyn sy’n goruchwylio.

Argymhelliad 14

Dylid hyrwyddo strwythurau LSET sy’n ei gwneud yn bosibl i gynnal gwahanol lefelau neu gamau (yn enwedig addysg ffurfiol a chyfnodau o ymarfer dan oruchwyliaeth) ar yr un pryd, lle nad ydynt yn bodoli eisoes. Ni ddylai fod yn orfodol. Dylid hefyd ganiatáu strwythurau LSET dilyniannol, lle y cwblheir addysg ffurfiol cyn dechrau ymarfer dan oruchwyliaeth, lle y bo’n briodol. Yn y naill achos neu’r llall, caiff cysondeb rhwng yr hyn a ddysgir mewn addysg ffurfiol a’r hyn a ddysgir yn y gweithle ei hyrwyddo a’i hwyluso drwy bennu deilliannau ‘diwrnod cyntaf’.

Argymhelliad 15

Dylid adolygu diffiniadau o gyfnodau gofynnol neu arferol o ymarfer dan oruchwyliaeth er mwyn sicrhau y gall unigolion gymhwyso neu symud ymlaen i ymarfer yn annibynnol pan fyddant wedi bodloni’r deilliannau diwrnod cyntaf gofynnol. Dylid adolygu’r trefniadau ar gyfer cyfnodau o ymarfer dan oruchwyliaeth er mwyn dileu cyfyngiadau diangen ar amgylcheddau a sefydliadau hyfforddi a hwyluso cyfleoedd ychwanegol i gymhwyso neu ymarfer yn annibynnol.

DPP a dysgu parhaus

Er bod hyfforddiant o ansawdd uchel ar gael a bod llawer o ymarferwyr yn cymryd eu hymrwymiadau o ddifrif, roedd cryn dipyn o sinigiaeth ac amheuaeth ymhlith yr ymatebwyr ynghylch effeithiolrwydd cynlluniau datblygiad proffesiynol parhaus cyfredol, sydd fel arfer yn seiliedig ar oriau. Nid yw’r rhan fwyaf o gynlluniau DPP yn y sector gwasanaethau cyfreithiol yn cyd-fynd ag arfer gorau cydnabyddedig mewn proffesiynau yn gyffredinol ac o’u cymharu â chynlluniau ‘arloesol’ ar gyfer cyfreithwyr mewn awdurdodaethau eraill. Nodwyd nifer o rwystrau i gyfranogiad effeithiol, gan gynnwys cost, y ffaith nad yw cynlluniau yn cynnwys gweithgareddau dysgu defnyddiol, sy’n aml yn anffurfiol, ac anawsterau ar gyfer unig ymarferwyr, grwpiau bach a sefydliadau sy’n cyflogi aelodau o wahanol broffesiynau. Mae’r rôl bwysig y gallai DPP ei chwarae o ran sicrhau cymhwysedd parhaus yn dangos bod angen creu cynlluniau sy’n effeithiol wrth gefnogi dysgu a myfyrio defnyddiol ac yn darparu dull priodol o sicrhau ansawdd. Mae ymarfer effeithiol yn cyfeirio ar y defnydd o ddull sicrhau ansawdd a arweinir gan endidau, gydag archwiliadau datblygiadol fel ffordd o sicrhau bod cynlluniau wedi’u hymgorffori’n gywir yn yr amgylchedd sefydliadol. Dylai swyddogaethau disgyblu gweithgarwch archwilio fod yn llai pwysig.

Argymhelliad 16

Dylai goruchwylwyr cyfnodau o ymarfer dan oruchwyliaeth gael cymorth ac addysg/hyfforddiant addas i’w helpu i gyflawni’r rôl. Dylai hyn gynnwys hyfforddiant cychwynnol ac unrhyw hyfforddiant gloywi neu ailardystio cyfnodol sy’n ofynnol.

Argymhelliad 17

Dylid mabwysiadu modelau o DPP sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gynllunio, gweithredu a gwerthuso eu hanghenion hyfforddi a’u dysgu a myfyrio arnynt yn flynyddol lle nad ydynt ar waith eisoes. Gall y dull hwn ragnodi’r nifer ofynnol o oriau, ond nid oes angen iddo wneud hynny. Os na chynhwysir gofyniad amser, mae’n rhaid datblygu dull cadarn o fonitro gweithgarwch cynllunio a pherfformiad er mwyn sicrhau yr ymgymerir â gweithgareddau priodol. Lle y bo’n ymarferol, gellir dirprwyo llawer o’r gwaith goruchwylio i endidau priodol (gan gynnwys siambrau), yn amodol ar archwiliad.

Argymhelliad 18

Dylai DPP gael ei oruchwylio’n rheolaidd ac yn briodol, a dylid archwilio cynlluniau er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â deilliannau dysgu priodol. Dylai archwiliad fod yn broses ddatblygiadol sy’n cynnwys ymarferwyr, endidau a’r rheoleiddiwr.

Argymhelliad 19

Yn y tymor byr i ganolig, dylai rheoleiddwyr gydweithio i hwyluso croesgydnabyddiaeth o weithgareddau DPP, fel cam tuag at DPP mwy effeithiol a chysoni dulliau gweithredu yn y tymor hwy.

Prentisiaid, staff paragyfreithiol a phrofiad gwaith

Ystyrir newidiadau o ran gerio, patrymau recriwtio ac effaith y gweithlu paragyfreithiol ym Mhenodau 3 a 6 o’r adroddiad. Trafodir nifer o faterion sy’n ymwneud â mynediad teg a rhwystrau i fynediad, gan gynnwys cost hyfforddiant a phwysigrwydd profiad gwaith blaenorol (e.e. interniaeth neu waith paragyfreithiol, nad ydynt o bosibl yn hygyrch i bawb) mewn penderfyniadau ynghylch recriwtio. Daw’r ymchwil i’r casgliad nad oes unrhyw ateb syml i broblemau cost a nifer yr unigolion sy’n dechrau hyfforddiant ac mae’n mynegi cryn amheuaeth ynghylch a yw’r materion hyn yn rhai priodol i’w rheoleiddio. Gellir gwella’r ddau (i ryw raddau) drwy gyfuniad o fesurau sy’n cynyddu mynediad i wybodaeth am y risgiau sy’n gysylltiedig â dechrau hyfforddiant proffesiynol, yn gwella ymwybyddiaeth o yrfaoedd proffesiynol a llwybrau hyfforddi amgen, yn galluogi mwy o hyblygrwydd mewn llwybrau hyfforddi ac yn cynyddu cystadleuaeth.

Ystyrir datblygiad prentisiaethau hefyd. Mae’r rhain wedi’u croesawu, ar y cyfan, gan randdeiliaid perthnasol fel ffordd o gynyddu amrywiaeth, ac wrth greu cystadleuaeth rhwng llwybrau hyfforddi, yn enwedig o ran mynediad i broffesiwn y cyfreithwyr. Amser a ddengys i ba raddau y cyflawnir yr amcanion hyn, ond nid yw’n anochel y cânt eu cyflawni. Gall llwybr prentisiaeth hefyd greu risgiau i gymhwysedd os na ellir cynnal hyfforddiant o ansawdd priodol yn y gweithle ac yn yr ystafell ddosbarth. Felly, mae’r adroddiad yn argymell y dylid parhau i fonitro a gwerthuso’r llwybr prentisiaeth.

Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried rolau paragyfreithiol yr ymddengys eu bod yn ymestyn, a’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithlu paragyfreithiol a allai fod yn tyfu, gan gynnwys diffyg dilyniant o rolau paragyfreithiol i gymhwyso yn y sector, a’r dull priodol o reoleiddio staff paragyfreithiol. Mae’r data ymchwil yn nodi pryderon ynghylch ansawdd yr oruchwyliaeth a’r hyfforddiant a roddir i staff paragyfreithiol, a diffyg dilyniant neu gydnabyddiaeth broffesiynol ar gyfer eu gwaith. Yng nghyd-destun y newidiadau pwysig a sylweddol i’r modd y darperir arian preifat ac arian cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol, gallai fod gan weithwyr paragyfreithiol annibynnol rôl i’w chwarae o ran darparu gwasanaethau o safon am bris da y tu allan i’r farchnad a reoleiddir ar hyn o bryd. Dylid gwneud rhagor o waith i ystyried potensial cynlluniau paragyfreithiol trwyddedig.

Argymhelliad 20

Yn sgil Adroddiadau Milburn ar symudedd cymdeithasol, dylid rhoi safonau ymddygiad a chanllawiau ar gynnig a chynnal interniaethau a lleoliadau ar waith.

Argymhelliad 21

Dylid bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu cymwysterau prentisiaeth uwch ar lefelau 5-7 fel rhan o lwybr ychwanegol nad yw ar gyfer graddedigion i’r proffesiynau a reoleiddir, ond  dylid monitro ansawdd ac amrywiaeth y fath lwybrau.

Argymhelliad 22

O fewn endidau a reoleiddir, ni ddangoswyd yn glir bod angen newid i system lle y caiff staff paragyfreithiol eu rheoleiddio’n unigol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i endidau a reoleiddir sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau ar waith er mwyn darparu lefelau digonol o oruchwyliaeth a hyfforddiant i staff paragyfreithiol, ac mae’n rhaid i reoleiddwyr sicrhau bod systemau archwilio cadarn yn rhoi sicrwydd bod y safonau hyn yn cael eu cyrraedd. Er mwyn sicrhau cysondeb a chynyddu cyfleoedd o ran dilyniant gyrfa a symudedd o fewn gwaith paragyfreithiol, dylid hefyd ystyried datblygu un system ardystio/trwyddedu wirfoddol i staff paragyfreithiol, yn seiliedig ar gyfres gyffredin o ddeilliannau a safonau paragyfreithiol.

Argymhelliad 23

Dylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol a chyrff cynrychioliadol ystyried rôl cynlluniau ansawdd gwirfoddol o ran sicrhau safonau darparwyr paragyfreithiol annibynnol y tu allan i’r cynllun rheoleiddio presennol. Efallai y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol am ystyried y mater hwn fel rhan o’i waith ar gadw a rheoleiddio cyngor cyfreithiol cyffredinol.

Gwybodaeth a chydweithredu

Thema sy’n codi dro ar ôl tro yn y data ymchwil yw’r graddau y mae cyfreithwyr, myfyrwyr a defnyddwyr yn methu â chael gafael yn hawdd ar wybodaeth am LSET. Mae awydd cryf ymhlith myfyrwyr a hyfforddeion i weld mwy o dryloywder ynghylch costau hyfforddiant, cyfleoedd cyflogaeth a’r gwahanol lwybrau ac opsiynau hyfforddi sydd ar gael ledled y sector yn gyffredinol. Roedd rhywfaint o amheuaeth ynghylch didueddrwydd y wybodaeth a roddwyd gan ddarparwyr addysg a hyfforddiant eu hunain. Mae’r data hefyd yn nodi rhywfaint o ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith ymarferwyr a chyflogwyr o’r amrywiaeth o opsiynau hyfforddi sydd ar gael ar hyn o bryd.

Mae llawer o’r datblygiadau a drafodir yn yr adroddiad ar gam cynnar. Mae’n anodd rhagfynegi canlyniadau tymor hwy datblygiad strwythurau busnes amgen, tueddiadau o ran cyflogi staff paragyfreithiol, effaith y newidiadau diweddaraf i gymorth cyfreithiol ac effaith ffioedd prifysgolion. Er mwyn i reoleiddwyr allu parhau i ddefnyddio dull o reoleiddio a llunio polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth bydd angen parhaus am ymchwil a gwybodaeth o ansawdd da. Mae cyflymdra newid yn annhebygol o arafu yn y tymor byr i ganolig. Mae hyn yn awgrymu bod y model o adolygiadau anfynych, mawr o LSET yn hen ffasiwn ac y dylid mabwysiadu dull mwy parhaus a chynyddrannol yn ei le. Mae’r broses o bennu deilliannau a safonau a ddisgrifiwyd uchod ar ei phen ei hun yn gofyn am fwy o gydweithio a chydweithredu ledled y sector yng nghyd-destun gwaith adolygu parhaus. O ganlyniad mae nifer o argymhellion hefyd yn cael eu gwneud ar gyfer llunio adnoddau ac amgylcheddau ar gyfer rhannu gwybodaeth, cydweithio ac arbrofi.

Argymhelliad 24

Dylai fod yn ofynnol i ddarparwyr addysg gyfreithiol (gan gynnwys darparwyr preifat) gyhoeddi data amrywiaeth ar gyfer eu cyrsiau proffesiynol neu wirfoddol, Graddau Ymgymhwyso yn y Gyfraith a Diplomâu yn y Gyfraith i Raddedigion a chymwysterau sy’n cyfateb iddynt.

Argymhelliad 25

Dylid sefydlu corff, sef y ‘Cyngor Addysg Gyfreithiol’, er mwyn darparu fforwm ar gyfer cydgysylltu’r gwaith parhaus o adolygu LSET a rhoi cyngor i’r rheoleiddwyr cymeradwy ar reoleiddio LSET ac ymarfer effeithiol. Dylai’r Cyngor hefyd oruchwylio canolfan gydweithredol o wybodaeth, adnoddau a gweithgareddau cyfreithiol a all gyflawni’r swyddogaethau canlynol:

  • Archif data (gan gynnwys monitro amrywiaeth a gwerthuso mentrau amrywiaeth);
  • Siop gyngor (gwybodaeth am yrfaoedd);
  • Labordy Addysg Gyfreithiol (sy’n cefnogi ymchwil a gwaith datblygu cydweithredol);
  • System glirio (sy’n hysbysebu profiad gwaith;  yn rhoi cyngor ar reoliadau trosglwyddo ac yn adolygu penderfyniadau ynghylch trosglwyddo y mae anghydfod yn eu cylch).

Y broses adolygu

Er bod cyfraniadau defnyddiol wedi’u derbyn gan y Panel Defnyddwyr Gwasanaethau Cyfreithiol a chyfreithwyr mewnol fel prynwyr gwasanaethau cyfreithiol, ychydig iawn o ddefnyddwyr a gyfrannodd at gam ymchwil LETR. Mae safbwynt defnyddwyr ar LSET yn dal heb ei ddatblygu, a dylid mynd i’r afael ag ef drwy sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu cynrychioli yng ngham nesaf yr adolygiad.

Nid yw’r adroddiad yn mynd mor bell â gwneud argymhellion penodol o ran y sector nas rheoleiddir yn gyffredinol. Er i rywfaint o waith ymchwil rhagarweiniol gael ei wneud, prif effaith yr ymchwil hon fu tynnu sylw at y prinder presennol o ymchwil a gwybodaeth am y sector. Yng nghyd-destun unrhyw adolygiad posibl gan y llywodraeth o gwmpas gweithgarwch rheoleiddio gwasanaethau cyfreithiol, dylid comisiynu gwaith ymchwil ychwanegol i’r modd y mae’r sector nas rheoleiddir yn gweithredu ar hyn o bryd fel mater o flaenoriaeth.

Argymhelliad 26

O ystyried yr amcanion rheoliadol a’r nifer fach iawn o ddefnyddwyr a sefydliadau defnyddwyr a gyfrannodd at gam ymchwil LETR, argymhellir y dylai’r rheoleiddwyr sicrhau bod mewnbwn a chynrychiolaeth briodol gan ddefnyddwyr yn cael eu hintegreiddio yn y gweithgareddau ymgynghori a gweithredu y bwriedir eu cynnal yn ystod cyfnod nesaf LETR.



[1] Yn y testun sy’n dilyn mae ‘hyfforddai’ yn cynnwys aelodau o unrhyw broffesiwn cyn cymhwyso neu, yn achos bargyfreithwyr a notarïaid, cyn cael eu hawdurdodi i ymarfer yn annibynnol. Mae cyfeiriadau at ‘lefelau’ yn gyfeiriadau at y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol lle mae Lefel Uwch yn cyfateb i lefel 3, mae graddau israddedigion yn pontio lefelau 4-6 ac mae cymwysterau meistr yn cyfateb i lefel 7 (gan gynnwys y cymwysterau galwedigaethol sy’n cyfateb iddynt). Mae ‘cyfnod o ymarfer dan oruchwyliaeth’ yn cynnwys pob cyfnod o brofiad gofynnol yn y gweithle cyn cymhwyso neu, yn achos bargyfreithwyr a notarïaid, cyn cael eu hawdurdodi i ymarfer yn annibynnol.